Amdanom.
Mae ein tîm wedi gweithio gyda sefydliadau a chwmnïau nodedig yn y DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y BBC ac S4C i gynhyrchu amrywiaeth o fideos corfforaethol, ffilmiau brand, teledu a chynnwys hyrwyddo.
Wedi ein lleoli yng Nghymru, rydym yn fedrus wrth greu cynnwys Cymraeg ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat. Fel tîm dwyieithog, gallwn eich arwain drwy'r broses gynhyrchu gyfan ym mha bynnag iaith.

Ein tîm.

Cyd-sylfaenydd a Phennaeth Gweithredu Coracle.
Wedi cychwyn ei yrfa ym myd cynhyrchu cerddoriaeth yn Los Angeles, dychwelodd Steffan i Gymru a sefydlu cwmni cynhyrchu teledu ei hun. Yn gynhyrchydd profiadol yn y maes darlledu a chynhyrchu fideo, mae Steffan bellach yn gofalu am ein gweithrediadau masnachol a’n prosesau cynhyrchu.
.jpg)

Cyd-sylfaenydd a Phennaeth Creadigol Coracle.
Wedi gweithio ar 30 o ddramâu byrion a rhaglenni dogfen i’r BBC ac S4C, dilynodd Sion ei angerdd am gyfarwyddo a golygu. Mae ei waith diweddaraf yn cynnwys y gyfres gomedi 6 rhan Limbo i S4C, a drama beilot newydd sbon ‘Bwmp’. Mae arbenigedd creadigol Sion mewn cyfarwyddo ac ôl-gynhyrchu yn sicrhau bod eich fideos bob amser o’r safon uchaf.
Ein gwaith.
Rydyn ni wedi gweithio gyda





