top of page

GWASANAETHAU FIDEO

CROESO | WELCOME

Gwasanaethau.

Rydym yn gwmni cynhyrchu fideo dwyieithog wedi’i leoli yn Ne Cymru. I ni’n gweithio gyda brandiau a sefydliadau o bob maint ac rydym yn darparu gwasanaethau cynhyrchu, golygu, ffilmiau creadigol a strategol wedi'u teilwra i'ch anghenion. 

Anchor 1

Siarad Cymraeg.

Rydym yn gwmni hollol ddwyieithog.

Y gwahaniaeth rhyngom ni â chwmnïau cynhyrchu fideo eraill yw y gallwn ddarparu gwasanaethau gwbl ddwyieithog. Mae pob aelod o’n tîm talentog yn siaradwr Cymraeg, sy’n golygu y gallwn gysylltu â’ch timau a rheoli eich prosiectau yn Gymraeg, Saesneg, neu yn ddwyieithog.
 

O ran cynnwys, cynhyrchwn naratifau cyfareddol, fideos hyrwyddo, ac hysbysebion teledu sy’n cysylltu  gyda chynulleidfaoedd a chleientiaid Cymreig.

Dechreuwch eich prosiect gyda ni heddiw.

Rydyn ni wedi gweithio gyda

bottom of page